Mae hi'n twllu arnai, mae fy nghysgod yn diflanu i ddu y nos.
Rwy'n methu gweld gwrthgyferbyniad rhwng y pridd a'r ffôs.
Rwy'n teithio heb gwmni, heb neb i'm tywys i
Rwy'n teimlo angen rhywun - dwi dy angen di!
Hei Angel! Cana dy gân
Ti yw fy awen - goleua'm fflam
Mae dy gariad fel y glaw yn fy arwain i i'r môr
Y llif yn cadarnhau rhyw sicrwydd, lle mod i'n llyncu'm mhoer
Mae dy swyn fel gobaith - mae ei angen arna i
Rwy'n troi at y rhai sydd yn edrych amdana i!
Hei Angel! Cana dy gân
Ti yw fy awen - goleua'm fflam
Ti sydd yn ffoi o'r peryglon sy'n ein gwynebu ni.
Ti sydd yn troi pob gelyn yn ffrind i mi.
Ti sydd yn rhoi yr awen, fel ffrind i mi.
Ti yw'r un sefydlog pan mae'r angen yna.
Hei Angel! Cana dy gân
Ti yw fy awen - goleua'm fflam