Be ddigwyddod i Sbyty Ifan?
Unwaith yn fan cysegredig, yn hafan
Lloches pererinion ar eu taith i Enlli
Ond rŵan yn le i - Bandits!
Be ddigwyddodd i'r bywyd sanctaidd?
Ydi'r noddfa lân rwan yn anwaraidd?
Gwylliaid Cochion?! Yn fama?!
Caewch y drysa - Bandits!
Mae pawb isio byw
Goroesi, da ni'n ddynol ryw
Yn dlawd neu'n gyfoethog
Ma pawb yn cymyd rywbeth i groesi'r rhiniog
Be ddigwyddodd wedi dyfodiad
Goruchafiaeth Harri'r 8fed?
Mynachod bach, anghofiwch Rhufain
Your religion is now, mine - Bandit!
Be ddigwyddodd i fywyd gwerin?
Didl lan dan i'r diafol ar y comin!
Ewch i seti saff y ddoldy
A'ch llyfrau emynau du - Bandits!
Be ddigwyddod i'r lladron, llofruddion?
Ai bobl y fro yw'r disgynyddion?
Ble mae'r pennau cochion gwyllta?
Mae Yncl Lewis am eich amonia - Bandit!
Be ddigwyddodd i Ysbyty Ifan?
Dim jest fama ond ma'n digwydd ymhobman
Cestyll o Gymreictod lu
Y system wedi'n methu - Bandits!
Bandits, bandits ymhobman!