O ni'n gwarchod
Ond o ni methu darfod
Dwi'n trio dal fy nhafod
Fel dafad sy'n sownd yn y weiren bigog
O ni'n mynd adre
Adre lle mae'r dagrau
A gweld ti ar dy faglau
Mae un o 'sgidiau chdi'n sownd yn y weiren bigog
Amgueddfa
Fy mhethau'i gyd mewn berfa
Disgwyl am yr heulwen
Eiddew ar fy eiddwen
Cadw fi'n rhydd
Cadw dy ffydd
Cadw i fynd
Gadael dy ffrind
Cadwa'n bur
Y donfedd yn glîr
Dwi'n teimlo ben i waered
Dwi yn y weiren
Aros yn flîn
Deffro ar ddi-hun
Does na'm lledrith a hud
Ar fore Dydd Llun
A dod ynghyd
Ar ol colli ein ffydd
Dwi'n teimlo ben i waered
Yn y weiren
Bigog
O ni'n gwarchod
Ond o ni methu darfod
Dwi'n trio dal fy nhafod
Fel dafad sy'n sownd yn y weiren bigog
O ni'n mynd adre
Adre lle mae'r dagrau
A gweld ti ar dy faglau
Mae un o 'sgidiau chdi'n sownd yn y weiren bigog
Cadw fi'n rhydd
Cadw dy ffydd
Cadw i fynd
Gadael dy ffrind
Cadwa'n bur
Y donfedd yn glîr
Dwi'n teimlo ben i waered
Dwi yn y weiren
Aros yn flîn
Deffro ar ddi-hun
Does na'm lledrith a hud
Ar fore Dydd Llun
A dod ynghyd
Ar ol colli ein ffydd
Dwi'n teimlo ben i waered
Yn y weiren
Bigog