Oedd gen i syniad - yng nghefn fy mhen
O sut oedd bywyd fod i fynd
Ond erbyn hyn - dwi'n sylweddoli
Fod na fwy o liw i'r byd na du a gwyn
'Di dysgu byw i barchu'r gwir
Ddaw fyth ddaioni o gelwydde ffôl
I gymryd be dwi'n gael - a rhoi o hyd yn hael
A byw heb ddisgwyl cael pob peth yn ôl
Weithie mae hi'n anodd bod yn gry'
Weithie haws yw nofio hefo'r lli
A byw y bywyd tawel a di-stwr
Heb godi cryche yn y dwr
A weithie haws yw bod yn hollol fud
Yn lle sefyll dros ein hawlie ni o hyd
Arnofio yn ddigynnwrf a di-stwr
Fel brigyn bychan yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Weithie mae hi'n anodd codi gwen
Ond cofia - mae hi'n talu bod yn glên
Casineb sy'n cael llwyfan ymhob man -
Arweinwyr gwlad â'u siarad mân
Weithie mae hi'n bwysig codi llais
Mewn byd sy'n llawn anhegwch, cosb a thrais
Yn lle byw y bywyd tawel a di-stwr
Fel brigyn bychan yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Mewn rhyw fyd sy'n llawn cenfigen blin
Weithie mae'n anodd bod yn ti dy hun
Ond ti'n sylweddoli mai rhyfedd yw o fyd
Mae na bobl yn y byd sy'n tynnu'n groes o hyd
Ond mae hi'n haws gan rai dy dynnu di i lawr
Yn lle'th glodfori di pan ddaw dy awr
Ond rhaid anwybyddu a bod yn hunan-siwr
Yn dawel a di-stwr
Fel brigyn yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Fel brigyn yn y dwr
Roedd gen i syniad - yng nghefn fy mhen
Sut oedd y bywyd hwn i fod
Ond erbyn, dwi'n sylweddoli
Fod rhaid cymryd bob un dydd fel mae o'n dod